Amdanom ni

 
 
 

Yn 2024, mae Forté Project yn parhau i gyflwyno ei fodel arloesol o ddatblygu talent sy’n cefnogi ac yn dathlu cerddorion ifanc yng Nghymru.

Mae Forté Project yn chwarae rhan gyfannol wrth lunio dyfodol newydd i’r celfyddydau yng Nghymru. Rydym yn parhau i ehangu ein darpariaeth, ein cyrhaeddiad, ein gweledigaeth a'n heffaith ar draws y wlad. Rydym yn defnyddio amred o wybodaeth a sgiliau gan weithwyr proffesiynol amrywiol y diwydiant i gefnogi pobl ifanc a'u helpu i nodi llwybrau i ddilyn gyrfaoedd mewn cerddoriaeth.

Mae Forté Project yn galluogi artistiaid i brofi eu gwir botensial yn ystod eu hamser ar y rhaglen, fel y gallant gyflwyno eu gwaith gorau a thyfu eu proffil i gynulleidfaoedd yng Nghymru a thu hwnt. Rydym yn gwneud hyn drwy ddarparu’r llinynnau cymorth canlynol…

  • Ein cynllun mentora diwydiant pwrpasol

  • Dosbarthiadau meistr diwydiant 

  • Dosbarthiadau archwilio creadigol mewn ysgrifennu caneuon a chynhyrchu

  • Cyfleoedd rhwydweithio 

  • Cefnogaeth a hyrwyddiad recordio 

  • Cefnogaeth marchnata

  • Amser ymarfer

  • Cyfleoedd chwarae cerddoriaeth byw

  • Cymorth lles

Mae’r bobl ifanc rydym wedi’u cefnogi wedi ffynnu’n greadigol, wedi cynhyrchu deunydd newydd, ac wedi cysylltu â chyfres o gyfleoedd unigryw, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae artistiaid blaenorol wedi mynd ymlaen i…

  • Fod yn brif act wyliau cerddoriaeth

  • Derbyn enwebiadau gwobrau cenedlaethol

  • Nodwedd ar A-Lists BBC Radio

  • Derbyn gwobrau ariannol

  • Cefnogi artistiaid ar deithiau rhyngwladol mewn sioeau arena

  • Cael eu llofnodi gan labeli record

  • Dod yn gyfansoddwyr caneuon cyhoeddedig ac yn broffesiynol

… a mwy!

Dysgwch fwy am yr artistiaid rydyn ni wedi'u cefnogi a dilynwch ni ar ein gyfryngau cymdeithasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein gwaith.

 

Wedi'i bweru gan Beacons Cymru
Mae'r Forté Project yn cael ei bweru gan Beacons Cymru - Datblygu’r Diwydiant Cerddoriaeth yng Nghymru. Mae Beacons Cymru yn darparu cefnogaeth a chyfle i’r genhedlaeth nesaf o bobl ifanc sy’n dyheu am weithio yn y diwydiant cerddoriaeth.